| Helo!
Er gwaethaf tywydd cymysg, daeth miliynau ledled y DU at ei gilydd am baned gyda chymdogion, cyfarfodydd yn yr ardd, partïon stryd a digwyddiadau cymunedol dros benwythnos Y Cinio Mawr. Gobeithiwn eich bod wedi cael amser gwych ac mae dal amser i ymuno, gyda Chinio Mawr unrhyw bryd ym mis Mehefin!
Bu cymaint o gymunedau helpu i’w wneud y Cinio Mawr gwyrddaf eto, gyda phobl a digwyddiadau cyfeillgar i’r blaned gan gynnwys Cinio Mawr plannu a thyfu arbennig mewn Gardd Therapi Eco yng Nglannau Mersi ac yn Belfast, cynhaliodd ysgol gynradd ddigwyddiad i agor eu Gardd Peillwyr yn swyddogol. Yn Tamworth, bu grŵp rhandir yn paratoi am fisoedd trwy dyfu eu llysiau eu hunain i'w gweini!
Yn Llundain cynhaliodd elusen CALM Ginio Mawr ‘dewch i weld beth gawn ni’ i godi ymwybyddiaeth o'i chenhadaeth i helpu pobl i fyw'n llai ddigalon, tra ym mhentref Burn, defnyddiodd gyrrwr lori lleol eu digwyddiad i gasglu rhoddion ar gyfer ei 13eg daith i ddosbarthu cyflenwadau hanfodol i Wcráin.
Roedd yn benwythnos bendigedig ac rydym wrth ein bodd â'r holl straeon a lluniau sy'n dod i mewn. Daliwch ati i'w rhannu!
| | Allwch chi gwblhau ein harolwg byr?
| | Fel erioed, rydym yn casglu adborth yn dilyn Y Cinio Mawr, i'n helpu i adrodd yn ôl a gwella'r hyn a wnawn.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech sbario 5-10 munud i ateb ychydig o gwestiynau, ac fel diolch, byddwn yn eich cynnwys mewn raffl i ennill un o bum taleb £30 ar gyfer siop ar-lein yr Eden Project.
Hen gynnal eich Cinio Mawr eto? Bydd yr arolwg ar agor trwy gydol mis Mehefin, a byddwch yn dal yn gymwys ar gyfer y raffl fawr. Beth am ei lenwi unwaith y bydd y byntin yn ôl yn y cwpwrdd!
| | Rhowch gynnig ar raffl fawr yr Eden Project!
| | Awydd rocio mas i act anhygoel yn Eden Sessions 2025, bwyta allan yn ein Bïom Môr y Canoldir hardd yng Nghernyw neu ymuno â thaith a sesiwn flasu mewn bragdy hanesyddol?
Dyma rai o’r gwobrau gwych sydd ar gael gyda’n raffl fawr newydd! Mae tocynnau'n dechrau o £2 a thrwy gystadlu, byddwch yn cefnogi'r Eden Project i redeg prosiectau trawsnewidiol sy'n helpu i gryfhau cymunedau ac ailgysylltu pobl â byd natur.
| | Rydym wedi ymuno ag achosion da ledled y DU i roi llawer o ffyrdd i chi ddathlu eich cymuned y mis hwn. Felly cymerwch olwg ar yr holl fentrau gwych neu cynhaliwch Ginio Mawr i ymuno yn yr hwyl. Oes gennych chi blant? Defnyddiwch ein pecyn Mis y Gymuned Pawprint i'w cael nhw i gymryd rhan hefyd!
| | 15% oddi ar gacen Cinio Mawr!
| | Mae The Exploding Bakery yn paratoi cacen Courgette, Leim a Rhosmari i ddathlu'r Cinio Mawr eleni! Wedi’i gwneud ag almonau mâl a courgettes yn lle blawd a menyn, mae’r gacen ysgafn a hynod flasus hon yn blaned-bositif ac ar gael i’w dosbarthu ledled y DU. Defnyddiwch y cod: EDEN15 am ostyngiad 15% blasus.
| | |