Ers i'r Cinio Mawr ddechrau yn 2009, mae dros 1.3 miliwn o Giniawau Mawr ledled y DU wedi helpu pobl i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl yn eu cymunedau. Y llynedd, cymerodd un o bob pump o boblogaeth y DU ran. A fyddwch chi'n ymuno yr haf hwn?
Byddwch yn un o'r rhai cyntaf i roi eich digwyddiadau ar fap Y Cinio Mawr a gallech gael eich dwylo ar becyn digwyddiadau bach rhad ac am ddim gyda byntin, sticeri, baneri bwyd a manion eraill i'ch helpu i roi cychwyn ar eich Cinio Mawr. Gallwch restru'ch digwyddiad fel un 'cyhoeddus' os ydych am roi cyhoeddusrwydd iddo, neu'n 'breifat', ond mae ychwanegu'ch digwyddiad naill ffordd neu'r llall yn rhoi'r cyfle i chi gael pecyn.
Nifer cyfyngedig sydd gennym ar gael a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, felly rhowch eich Cinio Mawr ar y map nawr!
| | Dewch â Phrosiect Eden i'ch ysgol leol!
| | Eleni, rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â WWF-UK i helpu i wneud hwn y Cinio Mawr gwyrddaf eto! I ddechrau, rydyn ni'n paratoi gwers fyw wych i blant ysgolion cynradd, wedi'i chyflwyno o fïom fforest law'r Eden Project! Rhannwch y gwahoddiad gydag athrawon ac ysgolion a byddan nhw'n cael blas ar Eden o gysur eu dosbarth.
| | Dosbarth meistr dylunio digwyddiadau
| | Hoffech chi gael cymorth i gynllunio, hyrwyddo a chyflwyno digwyddiadau gwych sy'n galluogi pobl i gysylltu? Dewch â’ch egni, syniadau, heriau, a dyheadau digwyddiadau i’n dosbarth meistr rhad ac am ddim dydd Mercher yma. Wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth ag arbenigwyr digwyddiadau More Human, bydd y sesiwn ymarferol hon yn rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi eu defnyddio yn eich cymuned.
| | 52 o gyfnewidiadau bach cynaliadwy
| | Fel cymunedau ac unigolion, mae angen i ni leihau ein heffaith ar y blaned, sy’n gallu teimlo’n eithaf brawychus. Ond nid oes angen i fod yn fwy cynaliadwy fod yn waith caled. Mae'r cyfnewidiadau bach syml hyn yn hawdd eu hymgorffori yn eich bywyd bob dydd a byddant yn arbed rhai ceiniogau i chi hefyd.
| | Arbedwch ychydig wyau y Pasg hwn!
| | Mae'r Sbwng Victoria clasurol hwn wedi'i wneud heb unrhyw wyau na chynnyrch llaeth ac mae wedi'i lenwi â haen flasus o hufen menyn fanila fegan a jam mefus. Dyma'r danteithfwyd orau i'w rhannu gyda'ch ffrindiau, teulu a chymdogion y Pasg hwn.
| | |