Eden Project Cymunedau
Man offering woman a mince pie at her front door smiling
Ewch i ddweud shw mae 'da mins pei!

Y gaeaf hwn, mae gennym ni lwythi o syniadau i’ch helpu chi i ledaenu rhywfaint o gynhesrwydd a phositifrwydd lle rydych chi’n byw.

Os ydych chi'n teimlo'n grefftus, edrychwch ar ein hawgrymiadau ar gyfer creu Ffenestri Adfent yn eich cymdogaeth. Dadorchuddiwch ffenest newydd bob nos, neu addurnwch gyda thema Nadoligaidd i bawb ei gweld.

Ar gyfer y sawl yn ein plith sy'n hoff o'r awyr agored, mae ein Cloddfa'r Gaeaf a Llwybrau Cerdded y Gaeaf ar eich cyfer chi, ond os ydych chi'n hoff o fwyd, beth am ddweud shw mae 'da mins pei neu Cinio Mawr adeg Dolig?

Does dim byd tebyg i rannu bwyd i ddod â phobl at ei gilydd ac mae gennym ni ryseitiau blasus yma i chi - p'un a ydych chi'n teimlo'n felys neu'n sawrus, neu ag awydd ychydig o'r ddau.

Mae Mike, y Prif Gogydd yn ein Pencadlys, yr Eden Project, wedi creu rysáit llysieuol yn arbennig ar ein cyfer ni, felly rhowch gynnig arni (neu bachwch focs o’r siop) ac ewch i ddweud shw mae 'da’ch mins peis!
Beth amdani Dweud shw mae 'da mins pei ►
---------------------
Mike Greer, Head Chef  holding his mince pies at the Eden Project
Melys: Mins pei llysieuol
Os ydych chi'n hoff o fins pei, byddwch chi wrth eich bodd gyda'r rysáit di-ffws hwn gan ein brenin y crwst Mike Greer. Pobwch swp a'u gwylio'n diflannu oddi ar y plât yn gyflymach nag y gallwch chi ddweud 'mins pei'.
Mynnwch y rysáit ►
Lauren Leyva and her brie, stuffing and cranberry wreath
Sawrus: Torch stwffin, brie a llugaeron
Mae'r crwst sawrus hwn gan Lauren Lyva (AKA the Starving Student) yr un mor flasus. Mae’n saig hynod dda, perffaith i wneud argraff ar eich cymdogion neu westeion yn eich Cinio Mawr adeg Dolig.
Barod i bobi eich torch ►
---------------------
Joe Wicks and his chocolate orange popcorn
Rhywle yn y canol: Popgorn Oren Siocled gan Joe Wicks
Yn galw ar bawb sy'n hoff o bopgorn melys a hallt! Ni allai'r rysáit flasus hon gan Joe Wicks fod yn symlach. Mae'n un hyfryd i'w wneud gyda phlant, ond byddwch yn ofalus, efallai y bydd angen i chi wneud mwy nag un swp.
Ewch ati i goginio ►
---------------------

 

Syniadau i bawb ►
Beth sy'n digwydd ►
Straeon i’ch ysbrydoli ►

 

Gweld yr e-bost hwn ar-lein