Eden Project Cymunedau
Coronation Big Lunch wrap up film
Penwythnos aruthrol!

Er gwaethaf rhywfaint o dywydd cymysg, aeth miliynau o bobl ledled y DU allan i’w strydoedd a’u cymunedau i fod yn rhan o hanes dros benwythnos y Coroni. Gobeithio eich bod wedi cael amser gwych, yn llawn cyfeillgarwch, bwyd a hwyl!

Mwynhaodd ymwelwyr yn ein Pencadlys Cinio Mawr, yr Eden Project yng Nghernyw, Quiche enfawr y Coroni fel rhan o'n rhaglen arbennig ar gyfer y penwythnos. Cynhaliwyd dathliadau cymunedol mor bell i’r gogledd ag Ynysoedd Shetland yn yr Alban ac yn eu plith roedd te parti anhygoel ym Mhwll Môr Bude, Cernyw, cartref gofal yn agor ei ddrysau i’r gymuned gyfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cymru, a llynges fach yng Nghastell Enniskillen yng Ngogledd Iwerddon.

Yn Morecambe, Swydd Gaerhirfryn, daeth miloedd o bobl at ei gilydd wrth 900 o fyrddau yn ymestyn ar draws glan y môr, gan ei wneud yn un o’r Ciniawau Mawr mwyaf a gynhaliwyd yn ein hanes 15 mlynedd!

Cymerwch olwg ar ein ffilm i gael blas bach o'r hyn a ddigwyddodd dros benwythnos hanesyddol y Coroni - a daliwch ati i rannu eich lluniau a'ch straeon gyda ni, rydym wrth ein bodd yn eu gweld.
Gwyliwch y fideo ►
---------------------
Two women and babies at a Big Lunch
Enillwch £30 am rannu eich meddyliau!
Bob blwyddyn rydyn ni'n casglu adborth yn dilyn Y Cinio Mawr, sy'n ein helpu i adrodd yn ôl a gwella'r hyn rydyn ni'n ei wneud.

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech sbario 5-10 munud i ateb ychydig o gwestiynau, ac fel diolch, byddwn yn eich cynnwys mewn raffl i ennill un o bum taleb £30 ar gyfer siop ar-lein yr Eden Project.

Hen gynnal eich Cinio Mawr eto? Bydd yr arolwg ar agor trwy gydol Mehefin a Gorffennaf, a byddwch yn dal yn gymwys ar gyfer y raffl fawr. Beth am ei lenwi unwaith y bydd y byntin yn ôl yn y cwpwrdd!
Cwblhewch yr arolwg ►
Community at a Big Lunch event
Nid yw'r hwyl yn stopio yno...
Rydyn ni wedi ymuno ag achosion da ledled y DU i roi llawer o resymau i chi ddathlu, gyda Mis y Gymuned cyfan ym mis Mehefin eleni. Felly beth am drefnu dyddiad am Ginio Mawr gyda'ch cymdogion i gyd-fynd ag un o'r mentrau gwych, i godi arian, neu dim ond am hwyl!
Ymunwch ym Mis y Gymuned ►
---------------------

 

Syniadau i bawb ►
Beth sy'n digwydd ►
Straeon i’ch ysbrydoli ►

 

Gweld yr e-bost hwn ar-lein