Eden Project Cymunedau
Community at Big Lunch event cheering
Ai eich cymuned chi yw'r mwyaf cyfeillgar yn y DU?

I ddathlu Coroni EF y Brenin, rydym yn chwilio am gymunedau sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl i gefnogi'r rhai o'u cwmpas. Efallai eich bod yn cynnal Cinio Mawr blynyddol, clybiau neu gyfarfodydd rheolaidd, neu'n cyd-dynnu i helpu'ch gilydd a gofalu am eich ardal leol.

O ffordd bengaead i flociau o fflatiau, o bentrefi i ddinasoedd, os yw'ch cymuned yn haeddu 'diolch' mawr, rydym am glywed gennych!

Bydd tîm Eden Project yn gweithio gyda’r gymuned fuddugol i osod gardd sy’n gyfeillgar i beillwyr a phobl. Bydd y wobr hefyd yn cynnwys hamper Cinio Mawr y Coroni a £2,500 i gefnogi eich prosiect cymunedol nesaf.

Yn hoff o'r syniad? I gystadlu, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dweud ychydig wrthym am eich cymuned a pham eich bod yn haeddu cael eich coroni! Mae'r gystadleuaeth yn rhedeg o 1-30 Mawrth a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill.
Darganfyddwch fwy ac ymgeisiwch ►
---------------------
Put your Big Lunch on the map graphic
Awydd pecyn digwyddiad bach ar gyfer eich Cinio Mawr?
Os ydych chi'n trefnu Cinio Mawr y Coroni neu Ginio Mawr eleni, cymerwch ychydig funudau i'w ychwanegu at ein map, a gallech chi gael pecyn digwyddiadau bach am ddim, yn cynnwys byntin, hadau blodau gwyllt, lliain sychu llestri, baneri bwyd a mwy! Nifer cyfyngedig o gitiau sydd ar gael a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Rhannwch eich manylion ►
Man and woman hanging bunting
Yswiriant ar gyfer eich Cinio Mawr
Yn cynllunio parti stryd eleni? Mae llawer o gynghorau yn mynnu bod trefnwyr partïon stryd yn cael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus. Hyd yn oed os nad yw'ch un chi yn gwneud hynny, efallai y byddwch am wneud hynny beth bynnag, fel y gallwch fod yn dawel eich meddwl. Mae trefnu yswiriant gyda’n partneriaid yswiriant Creative Risk yn gyflym ac yn hawdd, ac mae polisïau’n dechrau o £25.
Sut i yswirio eich digwyddiad ►
---------------------
Children making decorations for The Big Lunch
Sialens a Bathodyn Cinio Mawr y Coroni
Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda’n ffrindiau yn Pawprint am yr ail flwyddyn yn olynol i greu Pecyn Her yn llawn syniadau crefft, bwyd a gweithgareddau i gael plant o bob oed i gymryd rhan yng Nghinio Mawr y Coroni. Lawrlwythwch y pecyn am ddim, cymerwch ran a gwobrwywch blant gyda bathodyn arbennig (a fforddiadwy) Cinio Mawr y Coroni!
Cael y plant i gymryd rhan ►
---------------------
Little boy planting spinach and lemon
Ar eich marciau, barod, tyfwch!
Mae Mis Plannu a Rhannu yn ôl! Fe'i cynhelir rhwng 22 Ebrill a 20 Mai, ac mae'n ffordd hyfryd o ddod â'ch cymuned at ei gilydd trwy dyfu, coginio a rhannu bwyd da. Yn newydd i dyfu? Cymerwch olwg ar ein ffyrdd hawdd o gymryd rhan, bod yn yr awyr agored a mwynhau'r dyddiau hirach, mwy teg sydd newydd gyrraedd.
Ffyrdd syml o fynd ati i dyfu ►
---------------------
Tray bake carrot cake image
Cacen foron sgwâr
Yn hoff o ddarn o gacen? Mae'r fersiwn hwn o gacen foron glasurol yn symlach i'w gwneud a gellir ei thorri a'i rhannu'n gyflym. Dewiswch flawd gwenith cyflawn a pheidiwch â rhoi eisin i'w wneud yn iachach - a gallwch chi newid yr wyau, y menyn a'r caws hufen yn hawdd am ddewisiadau eraill, os ydych chi am ei wneud yn fegan hefyd.
Gwnewch eich cacen sgwâr ►
---------------------

 

Syniadau i bawb ►
Beth sy'n digwydd ►
Straeon i’ch ysbrydoli ►

 

Gweld yr e-bost hwn ar-lein