Eden Project Cymunedau
Food being served at a Big Lunch at Christmas event
A wnaethoch chi ymuno â'r Cinio Mawr dros y Nadolig?

Blwyddyn Newydd Dda a diolch i bawb sydd wedi dod â goleuni i ddyddiau'r gaeaf gyda straeon am hwyl anhygoel yr ŵyl a chymunedau sy'n dod at ei gilydd.

Boed yn canu carolau yn y strydoedd, mins peis ar stepen y drws neu fis cyfan o gysylltiadau cymunedol â ffenestri Adfent, roedd yn wych gweld ysbryd Y Cinio Mawr yn cael ei ymestyn i'r Nadolig y llynedd.

A wnaethoch chi ddod ynghyd am glonc gyda chymdogion, mewn digwyddiad lleol, neu Ffair Nadolig? Hoffen ni glywed yn fawr iawn am eich Cinio Mawr y Nadolig.

Llenwch ein harolwg byr iawn a byddwn yn eich cynnwys mewn raffl i ennill taleb archfarchnad gwerth £30. Dyna'r bwyd ar gyfer eich digwyddiad cymunedol nesaf!
Cwblhewch yr arolwg byr ►
---------------------
Old ladt and young lady holding pencils under noses
Gwnewch fis Ionawr yn fwy disglair
Os ydych chi'n chwilio am ffyrdd o deimlo mwy o gysylltiad y mis yma, edrychwch ar Fap Cydgynnull Mawr y Gaeaf, i weld a oes unrhyw beth wedi'i gynllunio yn eich ardal chi. Mae Cydgynnull Mawr y Gaeaf yn gyfle i gerdded, siarad neu gwrdd ag eraill - mewn unrhyw ffordd sy'n gyfleus i chi. Mae'n dechrau ar 'Ddydd Llun y Felan', ac yn rhedeg o 16 i 29 Ionawr.
Cymerwch ran ►
Digital postcards
Estynnwch allan (a defnyddiwch eich stampiau!)
Gall Ionawr fod yn fis anodd, felly beth am ledaenu ychydig o lawenydd drwy anfon cerdyn at rywun agos i ddangos iddyn nhw eich bod chi'n gofalu amdanyn nhw? Dewch o hyd i unrhyw stampiau sydd angen eu defnyddio neu eu cyfnewid erbyn 31 Ionawr a gyrrwch rywbeth drwy'r post, neu edrychwch ar ein cardiau post rhithwir i godi'r galon y gallwch eu lawrlwytho a'u hanfon trwy e-bost am ddim.
Rhannwch ein e-gardiau am ddim ►
---------------------
Lentil and vegetable bake
Coginiwch eich hun yn iach
Gwrthbwyswch eich gormodedd Nadoligaidd gyda'r pob ffacbys syml a llenwol hwn. Gan ddefnyddio ffacbys sych, pupurau neu unrhyw lysiau eraill sydd gennych wrth law, yn ogystal â thomatos tun, mae'n rhad i'w wneud ac yn feganaidd – ond gallwch ei orffen gyda gorchudd o gaws neu ddewis arall feganaidd i'w wneud e hyd yn oed yn fwy blasus.
Coginiwch eich hun yn iach ►

 

Syniadau i bawb ►
Beth sy'n digwydd ►
Straeon i’ch ysbrydoli ►

 

Gweld yr e-bost hwn ar-lein