Eden Project Cymunedau
Y Cinio Mawr adeg Dolig graff
Ydych chi'n barod am Y Cinio Mawr adeg Dolig?

Gyda Chalan Gaeaf a noson tân gwyllt y tu ôl i ni, mae'r cynllunio ar gyfer y Nadolig ar y gweill!

I lawer, mae'n amser prysur o'r flwyddyn, ac i rai gall deimlo'n eithaf unig. Mae cymryd yr amser i ddweud helo wrth gymydog gyda phecyn o fins peis yn eich dwylo, neu wahodd pobl i rannu pryd o fwyd yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad, a dyna pam rydym wrth ein bodd yn lansio'r Cinio Mawr adeg Dolig eleni.

Yn yr un modd â’r Cinio Mawr blynyddol ym mis Mehefin, sydd wedi bod yn dod â chymdogion at ei gilydd ers 2009, mae'r Cinio Mawr adeg Dolig yn ymwneud â rhannu bwyd a chyfeillgarwch â phobl yn eich cymuned.

Gallai fod yn rhoi rhodd o amser, trwy roi'r tegell ymlaen a gwahodd y cymdogion i mewn am baned a sgwrs, dod ynghyd â grwpiau lleol i gynnal rhywbeth mwy mewn gofod cymunedol, neu jyst gosod lle wrth eich bwrdd i rywun sy’n yn byw ar eu pen eu hun i ymuno â chi am bryd o fwyd neu ddau Nadoligaidd.

Cymerwch olwg ar ein canllaw a'n hadnoddau defnyddiol, pennwch ddyddiad a pharatowch i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl yr ŵyl ym mis Rhagfyr!
Ymunwch yn Y Cinio Mawr adeg Dolig ►
---------------------
People at Christmas event in street
Trefnwch eich Cinio Mawr gyda'r arbenigwyr digwyddiadau More Human
Gallwch gael cymorth ymarferol rhad ac am ddim i drefnu Cinio Mawr gwych, gan ein ffrindiau yn More Human. Mae eu tîm hynod brofiadol yn trefnu digwyddiadau yn cynnig gweithdai, cymorth 1:1 a mynediad at eu hofferyn hud ar-lein i wneud popeth mewn jyst un sesiwn.
Darganfyddwch fwy ►
Gingerbread Biscuits
Cynlluniwch eich bwyd a diod Nadoligaidd
Bydd ein ryseitiau cost-effeithiol yn sicr o blesio pawb yn eich Cinio Mawr adeg Dolig. Mae pob rysáit yn bwydo digon ac yn cynnwys haciau arbed amser ac ynni, yn ogystal â dewisiadau blasus fegan a heb glwten hefyd.
Cynlluniwch eich bwydlen ►
---------------------
Advent Stockings
Dathlwch Ddiwrnod Caredigrwydd y Byd: 13 Tachwedd 2022
Gyda bod yn garedig, mae eich cymuned yn lle gwych i ddechrau. Beth am ddathlu Diwrnod Caredigrwydd y Byd trwy edrych ar yr hyn sydd gennych chi ond nad oes ei angen arnoch chi mwyach, i'w roi i'ch cymdogion? Os dewch o hyd i lawer i'w rannu, ymunwch yn ein Her Gwrthdroi'r Adfent a rhoi rhywbeth i ffwrdd bob dydd yn y cyfnod cyn y Nadolig!
Byddwch yn garedig a chlirio ychydig ar yr un pryd! ►
---------------------
Two men chatting with tea
Mae cyfnodau anodd yn galw am gymunedau agos
Mae angen dod at ein gilydd a chefnogi’r rhai o’n cwmpas nawr yn fwy nag erioed. O leihau unigedd a sefydlu grwpiau newydd, i rannu bwyd a chefnogi'r rhai mwyaf anghenus, gyda'n gilydd gallwn greu ymateb 'cynhesu dynol' yn ein cymunedau.
Darganfyddwch sut ►
---------------------
Newyddion o Gymru
Gweld y newyddion diweddaraf o Gymru.
Darganfod mwy ►

 

Syniadau i bawb ►
Beth sy'n digwydd ►
Straeon i’ch ysbrydoli ►

 

Gweld yr e-bost hwn ar-lein