Eden Project Cymunedau
People at Community Camp
Ceisiadau ar gyfer ein Gwersyll Cymunedol rhad ac am ddim nawr ar agor!

Yn dilyn y tywydd poeth diweddar, rydym yn falch iawn o allu rhannu ein newyddion poeth ein hunain – bod ceisiadau ar gyfer ein Gwersylloedd Cymunedol rhad ac am ddim nawr ar agor!

Cynhelir Gwersylloedd Cymunedol naill ai wyneb yn wyneb yn yr Eden Project yng Nghernyw neu ar-lein ac mae pedwar ar y gweill rhwng nawr a Mawrth 2023. Maen nhw'n cynnig profiad dysgu trochi, gyda chymysgedd o weithgareddau ymarferol, sesiynau gweithdy, rhwydweithio a hwyl - i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.

Efallai eich bod wedi trefnu neu fynychu Cinio Mawr a bod gennych syniad nawr i ddod â phobl at ei gilydd yn fwy rheolaidd neu eich bod wedi gweld cyfle i ddatblygu gofod lleol yn rhywbeth ystyrlon i'ch cymuned - mae'r Gwersyll i chi!
Darganfyddwch fwy ac ymgeisiwch! ►
---------------------
Maria Billington at Gatis Community Space
Mynnwch brofiad o 'effaith Eden'
Mynychodd Maria o Wolverhampton Wersyll yn ôl yn 2013, gyda syniad i drawsnewid Maes Chwarae Antur a oedd i fod i gau. Aeth hi amdani ar ôl cael profiad o'r hyn a alwyd ganddi yn 'effaith Eden' yn y Gwersyll Cymunedol. Mae Gofod Cymunedol Gatis bellach yn ffynnu.
Gwyliwch stori Maria ►
Community at big Big Lunch
Y Cinio Mawr Mwyaf erioed yn buddio dros 17 miliwn
Mae ein hymchwil blynyddol yn ôl ac yn dangos mai hon oedd y flwyddyn fwyaf yn hanes Y Cinio Mawr! Cymerodd 17.2 miliwn enfawr o bobl ran, gwnaed bron i 12 miliwn cyfeillgarwch newydd a chodwyd dros £22 miliwn ar gyfer elusennau. Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran ac a helpodd i roi'r 'mawr' i mewn i'r Cinio Mawr eleni!
Y Cinio Mawr mewn niferoedd ►
---------------------
Nextdoor Good Neighbour Award winners 2021
Oes gennych chi gymydog anhygoel?
Mae Gwobrau Cymdogaeth Dda Nextdoor yn ôl am y pumed tro, yn dathlu cymdogion, busnesau lleol a grwpiau sy’n gwneud eu cymdogaethau yn lle gwell i bawb. Eleni, mae yna gategori Cinio Jiwbilî Mawr pwrpasol – sy'n cydnabod yr ymdrechion anhygoel a wnaed gan gymdogion i ddod â dathliadau Jiwbilî Blatinwm EM i'n cymunedau.
Enwebwch nawr! ►
---------------------
Children playing in the street
Ysgolion dal ar wyliau! Pum ffordd i ddiddanu'r plant
Rhedeg allan o ffyrdd i ddiddanu'r plant? Mae gennym bum syniad gweithgaredd gwyliau haf syml y gellir eu mwynhau am ddim, ar garreg eich drws, ym myd natur a gyda'ch cymuned. Cymerwch olwg a byddwch yn chwareus gyda'ch plant, beth bynnag fo'u hoedran.
Cadwch y plant yn brysur ►
---------------------
Jamie Oliver and his Summer Berry Pavlova
Paflofa Mwyar Haf Jamie Oliver
Os ydych chi'n chwilio am bwdin haf rhad a hawdd, mae'n bosib mai'r Paflofa hwn gan Jamie Oliver yw'r union beth! Mae'n berffaith ar gyfer mwynhau gyda ffrindiau a theulu ac rydym wedi cynnwys rhai awgrymiadau bach - os ydych chi'n ceisio arbed amser ac arian.
Cymerwch olwg ar y rysáit ►
---------------------
Bee Hotel
Allwch chi wneud lle i fyd natur yr haf hwn?
O adar yn trydar i ddolydd blodau gwyllt hardd, mae’r haf yn dymor llawn bywyd ym myd natur ac yn amser bendigedig i ni ei fwynhau. Gwnewch y mwyaf o’r dyddiau hir, cynnes tra byddant yn para, gyda’n hawgrymiadau ar sut i groesawu mwy o fyd natur i’ch cymuned yr haf hwn.
Ffyrdd cyflym o wneud lle i natur ►
---------------------
Newyddion o Gymru
Gweld y newyddion diweddaraf o Gymru.
Darganfod mwy ►

 

Syniadau i bawb ►
Beth sy'n digwydd ►
Straeon i’ch ysbrydoli ►

 

Gweld yr e-bost hwn ar-lein