Roedd Y Cinio Mawr a'r
Cinio Mawr Jiwbilî yn llawer o hwyl eleni, gyda mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn mynd i’n strydoedd a’n cymdogaethau am ychydig oriau o fwyd a hwyl.
Fe wnaeth bod yn rhan o ddathliadau swyddogol penwythnos Jiwbilî Blatinwm Ei Mawrhydi y Frenhines, ddenu llawer o bobl nad ydyn nhw wedi cymryd rhan o'r blaen i nodi'r achlysur hanesyddol. Ond nid oes angen i chi aros am 70 mlynedd arall, nac am ddathliad cenedlaethol i'w wneud eto! Mae yna lawer o ffyrdd i gadw'r ysbryd cymunedol yn fyw trwy gydol y flwyddyn, ac mae gennym ni chwe syniad syml i'ch rhoi chi ar ben ffordd.