Gyda chymaint o newyddion trallodus ar draws y byd, mae'n bosib bod dathliadau’r haf ymhell o’ch meddwl. Ond, mae'r dyddiau hirach, mwy disglair yn dod â llawenydd i'w groesawu ac rydym yn gwybod y gall
Y Cinio Mawr fod yn ffordd wych o godi hwyliau ac arian y mae mawr ei angen ar gyfer y rhai mewn angen ac at achosion lleol.
Felly, yr haf hwn, rydym yn dod â llawer o ffyrdd i chi ddod at eich gilydd a chynnal digwyddiadau mawr a bach ym mha bynnag ffordd sy'n gweithio orau i'ch cymuned.
Mae'r Cinio Mawr Jiwbilî yn rhan o'r dathliadau swyddogol ar gyfer Jiwbilî Blatinwm Ei Mawrhydi'r Frenhines rhwng 2-5 Mehefin ac unwaith eto bydd
Y Cinio Mawr yn cychwyn
Mis y Gymuned.
Sut bynnag y byddwch yn penderfynu ymuno, edrychwch ar ein
canllaw fideo sydyn a
gwyliwch y fideo o'n gweithdy sesiwn 'Sut i' mis Mawrth, i gael ychydig o awgrymiadau gan ein tîm hyfryd.