Eden Project Cymunedau
Haf i edrych ymlaen ato!
Pan mae hi’n dywyll ac yn oer y tu allan mae’n hyfryd cael rhywbeth yn y dyddiadur i edrych ymlaen ato ac mae gennym ni’r union beth i chi!

Efallai eich bod wedi gweld yn y newyddion ein bod wedi lansio'r Cinio Mawr Jiwbilî yr wythnos diwethaf, fel rhan o ddathliadau swyddogol penwythnos Jiwbilî Blatinwm Ei Mawrhydi y Frenhines, 2-5 Mehefin. Roedd yr hyfryd Gyles Brandreth wedi cyffroi amdano ar The One Show ac rydym wedi cael ein boddi gan geisiadau am becynnau'r Cinio Mawr a'r Cinio Mawr Jiwbilî felly mae’n edrych fel bod angen parti ar bobl!

Ochr yn ochr â'r Cinio Mawr Jiwbilî ar benwythnos y Jiwbilî, bydd Y Cinio Mawr unwaith eto yn cychwyn Mis y Gymuned, felly mae mwy o resymau nag erioed i ddod at ein gilydd, pryd bynnag y bydd yn gyfleus i chi a'ch cymuned.

Felly gadewch i ni ddechrau'r parti: cofrestrwch am becyn rhad ac am ddim, ac ymunwch yn Y Cinio Mawr Jiwbilî a’r Cinio Mawr yr haf hwn!
Cymerwch ran! ►
---------------------
Dwli ar bwdin
Mae tîm Y Cinio Mawr wrth eu bodd â phwdin, felly rydym yn falch iawn o gefnogi Fortnum & Mason wrth iddynt chwilio am Bwdin Platinwm. Rydyn ni’n gobeithio y bydd Pwdin y Bobl buddugol yn seren unrhyw fwrdd Cinio Mawr eleni felly cydiwch yn eich chwisg a'ch clorian – mae’n bryd mynd ati i greu!

Darganfod mwy ►
---------------------
Cynnau'r goleuadau
Ar 2 Mehefin 2022, ymunwch â gweithgaredd cynnau mwy na 1,500 o oleuadau yn eich cymunedau lleol i gydnabod teyrnasiad 70 mlynedd anhygoel y Frenhines. Cynnau'r goleuadau a’r gweithgareddau cysylltiedig yw digwyddiad cymunedol cyntaf Penwythnos swyddogol y Jiwbilî Blatinwm, gan alluogi cymunedau lleol, unigolion a sefydliadau i dalu teyrnged i’w Mawrhydi ac i ddathlu gyda’i gilydd. Gallwch gofrestru eich digwyddiad cynnau'r goleuadau eich hun yma lle byddwch chi'n dod o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am y digwyddiad a sut i'w gofrestru ar gyfer yr achlysur unigryw hwn.
Darganfod mwy ►
---------------------
Sesiynau sgiliau cyfathrebu ymarferol
Dros yr wythnosau nesaf, rydym yn cynnal cyfres gyffrous o sesiynau ar-lein rhad ac am ddim yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau cyfathrebu i'ch helpu i greu cysylltiadau â'ch cymuned. O adeiladu eich aelodaeth i anfon cylchlythyr, a chynghorion cyfryngau cymdeithasol, byddwn yn cronni ein profiad dysgedig a gwybodaeth am offer, awgrymiadau a haciau am ddim - bydd rhywbeth at ddant pawb!
Darganfod mwy ►
---------------------
Archebwch eich pecyn Y Cinio Mawr am ddim
Mae ein pecynnau 2022 yn llawn syniadau, ysbrydoliaeth ac awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau arni ac maen nhw’n hedfan oddi ar y silffoedd felly mynnwch eich un chi nawr! Ewch i'r ddolen isod, rhowch eich manylion a byddwch yn derbyn ychydig o ysbrydoliaeth, jyst i chi.

A phan fyddwch chi'n gwybod beth rydych chi'n mynd i'w wneud, ewch yn ôl ac ychwanegu eich Cinio at ein map! 
Cael eich pecyn am ddim! ►
---------------------
Newyddion o Gymru
Gweld y newyddion diweddaraf o Gymru.
Darganfod mwy ►

 

Syniadau i bawb ►
Beth sy'n digwydd ►
Straeon i’ch ysbrydoli ►

 

Gweld yr e-bost hwn ar-lein