Eden Project Cymunedau
Cyhoeddi'r siaradwyr!
Cyhoeddi'r siaradwyr!
Rydym yn falch o gyhoeddi siaradwyr cyntaf Gŵyl Ddarganfod 2021! Mae gennym raglen ffantastig eleni yn llawn enwau adnabyddus yn trafod yr hyn y gallwn ei wneud Gyda'n Gilydd dros ein Planed.

Dyma blas ar yr hyn sydd ar y gweill...

Sgwrs unwaith mewn oes rhwng Syr David Attenborough ac E.O.Wilson, gyda Syr Tim Smit, yn trafod sut i achub y Byd Naturiol.

Ymunwch ag Alastair Campbell, awdur ac ymgyrchydd iechyd meddwl, a Kevin Cahill, Llywydd Oes Comic Relief wrth iddynt gerdded trwy Hampstead Heath yn archwilio pam fod angen natur arnom a pham fod ar natur ein hangen ni.

Ar ben hyn bydd yna baneli arbenigol ar ail-wylltio, ffasiwn araf a garddio-eco. Gweithdai anhygoel ar farddoniaeth, crefftau a choginio. Gweithdai llawn egni a cherddoriaeth i'ch helpu i ymlacio.

Ymunwch â ni ar gyfer hyn oll a mwy, ar-lein ac am ddim o 11-13 Tachwedd!
Ymunwch yn yr hwyl! ►
---------------------
Calan Gaeaf Gwyrdd
Calan Gaeaf Gwyrdd
Gyda phinsiad o greadigrwydd ac ychydig gynllunio, gallwch wneud eich dathliadau Calan Gaeaf yn fwy caredig i'r blaned heb golli unrhyw ran o'r hwyl. Beth am droi'r rhain yn weithgareddau i'w gwneud gyda'ch cymuned? O wneud eich danteithion Calan Gaeaf eich hun i greu addurniadau brawychus neu wisg ffansi, cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau am Galan Gaeaf Gwyrdd.
Awgrymiadau ►
---------------------
Cawl Pwmpen i'ch Cynhesu
Cawl Pwmpen i'ch Cynhesu
Mae'n dymor pwmpenni! Teimlwch yn hydrefol trwy fwynhau rysáit cawl pwmpen Grainne - gyda neu heb sbeis. Beth am rannu'r rysáit gyda'ch cymuned mewn digwyddiad Coginio a Rhannui y mis hwn?
Ewch ati i Goginio ►
---------------------
Newyddion o Gymru
Newyddion o Gymru
Rydym yn creu cysylltiadau ar-lein ac yn cael ymgynulliad bach yn Hwlffordd. Dewch i ymuno â ni!
Darganfod mwy ►
---------------------

 

Syniadau i bawb ►
Beth sy'n digwydd ►
Straeon i’ch ysbrydoli ►

 

Gweld yr e-bost hwn ar-lein