Eden Project Cymunedau
You're amazing
Rydych chi'n anhygoel!
Waw, mae ein hymchwil yn ôl, mae'r niferoedd i mewn, ac rydych chi'n griw hyfryd o bobl gyfeillgar, sy'n frwd dros gymuned.

Gyda'n gilydd, rydym wedi gwneud Y Cinio Mawr eleni yn un o'r rhai mwyaf erioed, gyda 216,000 o ddigwyddiadau ledled y DU a'r nifer anhygoel o 9 miliwn o bobl sydd wedi ymgynnull ar-lein, ar garreg eu drws neu ar gyfer partïon stryd pellter diogel i ddathlu eu cymunedau a dod i nabod eu cymdogion ychydig yn well.

Ac nid yw'n ymwneud â chael hwyl ar y diwrnod yn unig, mae'r ymchwil yn dangos bod Y Cinio Mawr yn gwneud gwahaniaeth parhaus i bobl a chymunedau ledled y DU.

Mae Ciniawau Mawr yn dod â phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd, yn helpu pobl i deimlo eu bod yn perthyn yn fwy yn eu cymuned, ac maent hyd yn oed yn cefnogi elusennau ac achosion lleol, gyda'r swm rhyfeddol o £7.4m wedi'i godi eleni yn unig.

Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran eleni, ni waeth p'un a wnaethoch chi alw heibio am gwpl o greision, neu drefnu amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer eich cymdogaeth, ni allem ei wneud heboch chi.
Gweler y ffeithiau a ffigurau ►
---------------------
Group of people
Rhannu a gofalu yn Swydd Buckingham
Yn ystod y cyfnod clo, sylwodd Helen Alves ar ddiffyg gweithgareddau yn ei hardal ar gyfer teuluoedd ifanc a sefydlodd grŵp wythnosol i gymdeithasu ac ailddosbarthu eitemau cyn-annwyl. Mae hi'n rhoi'r clod i'r Gwersyll Cymunedol am roi'r sbardun iddi gychwyn arni: “Roedd mynychu'r gwersyll yn hynod ysbrydoledig! Fe roddodd hyder i mi a chryfhau fy mhenderfyniad i ddechrau'r prosiect hwn.” Â diddordeb mewn cychwyn eich taith gymunedol eich hun? Dysgwch fwy am y Gwersyll a gwnewch gais am eich lle nawr!
Darllenwch Stori Helen ►
---------------------
Wildflower meadow
Ychwanegwch ychydig o liw yn eich cymdogaeth
Oes gennych chi fan digariad yn eich cymdogaeth? Beth am ychwanegu ychydig o liw a chreu man i'r adar a'r gwenyn ei fwynhau - mis Medi yw un o'r misoedd gorau i hau hadau blodau gwyllt! Rydym wedi paratoi rhestr o awgrymiadau ar sut i hau dôl blodau gwyllt unrhyw le...
Jyst ychwanegwch flodau ►
---------------------
Wildflower focaccia
Focaccia Blodau Gwyllt Hynod Flasus
Mae yna blanhigion bwytadwy o amgylch bob cornel: o lan yr afon i lonydd gwledig, meysydd parcio i barciau cyhoeddus, ac mae cymaint o bethau y gallwch eu gwneud gyda nhw! Ewch am dro i weld beth allwch ddod o hyd i. Ac os nad ydych chi'n siŵr beth sy'n fwytadwy, cymerwch olwg ar ein fideo ar chwilota i ddechreuwyr. Dyma ein hoff rysáit ar gyfer focaccia blodau gwyllt i roi cynnig arno gyda'r hyn gasglwch chi...
Ewch ati i bobi ►
---------------------
Sunflower catcher
Yn teimlo'n greadigol?
Dewch â blas o'r awyr agored tu mewn gyda daliwr haul naturiol! Archwiliwch liwiau, siapau a gweadedd natur a dewch â'ch ffefrynnau at ei gilydd yn y gweithgaredd syml hwn. Ffordd wych o greu cysylltiad â'r amgylchedd i bobl o unrhyw oedran!
Byddwch yn grefftus ►
Children running
Rhedeg y Ddaear
Mae Rhedeg y Ddaear yn fudiad byd-eang sy'n dod â phobl at ei gilydd o bob cwr o'r byd i redeg, cerdded, rholio neu fynd am dro lle maent yn byw. Yn syniad gan The Eden Project Limelight Sports, y nod yw dod â'r gymuned fyd-eang fwyaf o redwyr ynghyd i glymu eu careiau, codi ar eu traed, codi llais, creu camau cadarnhaol ar yr amgylchedd a dangos mai ni fydd yn creu'r dyfodol. Mae'n dechrau ddydd Sadwrn 13 Tachwedd, a gyda mwy o ddigwyddiadau i ddilyn mae'n arbrawf byd-eang y byddwch am fod yn rhan ohono!
Ymunwch â'r mudiad ►
---------------------
News from Wales
Newyddion o Gymru
Mae gennym gyfleoedd ariannu, newyddion am y digwyddiad gwib grymus nesaf, a stori sy'n dangos pam nad yw'n newyddion drwg i gyd pan fydd digwyddiadau'n mynd o chwith!
Darganfod mwy ►
---------------------

 

Syniadau i bawb ►
Beth sy'n digwydd ►
Straeon i’ch ysbrydoli ►

 

Gweld yr e-bost hwn ar-lein