Eden Project Cymunedau
Make Your Own Sunshine
Lledaenwch ychydig o lawenydd yr haf hwn
Hoffem ddweud croeso enfawr i bawb sydd wedi ymuno â ni yn ddiweddar, a diolch gymaint am eich cefnogaeth.

Mae flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i ni i gyd, ond er bod pawb yn delio â'u rhwystrau eu hunain, bu ton o ysbryd cymunedol ledled y DU hefyd. Mae pobl yn troi dieithriaid yn ffrindiau, yn rhoi help llaw, ac yn meddwl am ffyrdd creadigol o fywiogi ein cymdogaethau.

Yr haf hwn, beth am i ni gadw gafael ar yr ymdeimlad hyfryd hwnnw o ysbryd cymunedol. Mae yna lawer o bethau syml a hwyliog y gallwn eu gwneud lle rydyn ni'n byw i Greu Ein Heulwen Ein Hun.

Dyma rai o'n syniadau ni i'ch galluogi i gychwyn arni, ac mae croeso i chi rannu eich syniadau gyda ni ar ein grŵp Facebook.
Lledaenwch ychydig o lawenydd ►
---------------------
Eden Project Communities Kits
Pecynnau cymunedau ar ddim!
Os ydych chi am ddod â'ch cymuned ynghyd ond ddim yn gwybod ble i ddechrau - mynnwch eich copi o un o'n pecynnau cymunedol am ddim, gyda hadau i'ch helpu chi i dyfu cysylltiadau, te i rannu paned gyda chymydog a digonedd o'n hoff syniadau i ddod â phobl at ei gilydd. Y cwbl sy'n rhaid i chi wneud yw anfon e-bost atom yn dweud wrthym beth yr hoffech ei wneud yn eich cymuned, ond brysiwch, dim ond 20 sydd gennym i'w roi i ffwrdd.

Anfon e-bost atom ►
---------------------
Bee made out of cardboard
Gwesty Gwenyn Hynod Syml
Mae Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd ar ddod ac mae ffordd syml o helpu i wella bioamrywiaeth eich cymdogaeth a pheillio planhigion a choed lleol: gwesty gwenyn! Gall gwesty gwenyn bach ddarparu lloches i hoff bryfyn y genedl sydd angen ychydig o help ar hyn o bryd. Felly beth am ddod â'ch cymuned ynghyd, a helpu'r blaned, trwy greu Gwesty Gwenyn lleol.
Sut i adeiladu Gwesty Gwenyn ►
---------------------
People talking
Ymunwch â ni yn y Gwersyll Cymunedol!
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithredu cymunedol ond nad ydych chi wedi cychwyn eto, neu os ydych chi wedi trochi bysedd eich traed ac eisiau gwneud mwy, yna mae ein Gwersyll Cymunedol nesaf ar eich cyfer chi yn unig. Mae'r Gwersyll hwn wedi'i deilwra i helpu i ysbrydoli a chefnogi unrhyw un sy'n newydd i weithgaredd cymunedol wrth i chi ddechrau ar eich taith. Mae ceisiadau bellach ar agor felly beth am gymryd golwg a chymryd y cam cyntaf hwnnw gyda ni.
Ymunwch â ni ►
Wales face to Face session dates
Newyddion o'r cenhedloedd
Y diweddaraf o Gymru, o gyfleoedd ariannu i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, peidiwch â cholli allan!
Darganfod mwy ►
---------------------

 

Syniadau i bawb ►
Beth sy'n digwydd ►
Straeon i’ch ysbrydoli ►

 

Gweld yr e-bost hwn ar-lein