Lle bynnag yr ydych chi a beth bynnag oedd eich digwyddiad, hoffam ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn ystod penwythnos y Cinio Mawr. Boed ar-lein, ar stepen y drws, dros y ffens neu ddigwyddiad mwy yn eich ardal leol, ymunodd miloedd o bobl ledled y DU i gael sgwrs gyda chymdogion. Cawson ni lawer o hwyl - ac am ffordd i gychwyn Mis y Gymuned!
Eleni, mae'r Cinio Mawr yn cwmpasu mis cyfan, felly gallwch chi ddod at eich gilydd pryd bynnag sy'n addas i chi a'ch cymuned. Angen ysbrydoliaeth? Cymerwch gip ar ein ffilm ar Y Cinio Mawr i gael blas bach o'r hyn a ddigwyddodd dros y penwythnos.
| | Sut oedd eich Cinio Mawr?
| | Bob blwyddyn rydym yn casglu adborth yn dilyn Y Cinio Mawr, sy'n ein helpu i barhau i wneud y digwyddiad yn llwyddiant mawr. Dim ond 5-10 munud o'ch amser y bydd yn ei gymryd, felly beth am fachu paned, ateb rhai cwestiynau syml a byddwn yn eich rhoi mewn raffl i ennill un o bum taleb £50 ar gyfer siop ar-lein Eden Project.
| | Rydyn ni wedi ymuno ag achosion da ledled y DU i roi llawer o resymau i chi ddathlu, gyda mentrau gwych yn digwydd trwy gydol mis Mehefin ac yn dod i ben gyda Diwrnod Dweud Diolch ar 4 Gorffennaf. Ymunwch bryd bynnag sy'n gyfleus i chi a'ch cymuned!
| | Eisiau cadw'r sgyrsiau i fynd? Ymunwch â'n grŵp Facebook i gadw mewn cysylltiad a chael eich ysbrydoli gyda llawer o syniadau i helpu i gadw'ch cymuned i ffynnu.
| | |