Dywedwch ddiolch gyda Chinio Mawr!
| | Yr wythnos diwethaf lansiwyd Diwrnod Dweud Diolch, a gynhelir ddydd Sul 4 Gorffennaf. Mae'n gyfle i bobl ledled y DU ddweud diolch i'w gilydd ar ôl blwyddyn anodd.
Rydym yn falch iawn o rannu bod Y Cinio Mawr yn ‘brif gwrs’ ar ddewislen gweithgareddau Diwrnod Dweud Diolch! Gan nodi diwedd Mis Y Gymuned, mae'n gyfle anhygoel arall i ddod ynghyd â Chinio Mawr, (wyneb yn wyneb, â phellter cymdeithasol neu ar-lein) i gael ychydig o hwyl a dweud diolch i'ch cymdogion a'ch cymuned.
Mae'r Ciniawraig Fawr Laura Graham a'i chymdogion wedi penderfynu cynnal eu Cinio Mawr ar Ddiwrnod Dweud Diolch, i ddechrau'r cysylltiad dynol hwnnw rydyn ni wedi'i golli cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i ddiolch i'n gilydd am y gweithredoedd bach caredig niferus a oedd yn helpu mawr yn ystod y cyfnod hwnnw.
Felly, sicrhewch eich bod yn cael pecyn Y Cinio Mawr am ddim, os nad gennych un eisoes, a gadewch i ni gymryd rhan!
| | Ewch â'r Cinio Mawr ar-lein
| | P'un a ydych chi am chwarae'n saff a chynnal eich Cinio Mawr ar-lein, neu eisiau cael cynllun wrth gefn rhag ofn, rydyn ni yma i helpu! Dyma ein canllaw hwylus ar sut i drefnu digwyddiad ar-lein.
| | Ddim yn siŵr beth i'w goginio ar gyfer eich Cinio Mawr? Mae ein ffrindiau-gogyddion enwog yma i'ch helpu gyda'r ryseitiau blasus hyn, y gellir eu rhannu'n ddognau ymlaen llaw felly nid oes angen rhannu platiau na llwyau gweini.
| | Ddim yn siŵr beth i'w wneud ar gyfer eich Cinio Mawr?
| | Dyma beth mae rhai Ciniawyr Mawr o bob rhan o'r DU wedi cynllunio ar ei gyfer eleni. Mae llawer rhagor o syniadau yn ein pecyn Y Cinio Mawr Am Ddim hefyd!
| | Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer penwythnos Y Cinio Mawr! | | Mae gennym raglen hyfryd o ddigwyddiadau yn arwain at ac yn ystod penwythnos y Cinio Mawr, galwch heibio ac ymunwch â ni os gallwch chi…
| | Trefnu Cinio Mawr yng Nghymru?
| | Gallwch hawlio Credydau Amser Tempo am yr oriau rydych chi'n eu treulio yn cynllunio - a defnyddio'r credydau i 'brynu' rhywbeth neis yn ôl i'ch cymuned (esgus gwych am eich cyfarfod nesaf).
| | |